Ffederasiwn Cysgod y Foel
Ysgol Bro Tryweryn ac Ysgol Ffridd y Llyn
Cysylltu |
Contact
Ysgol Bro Tryweryn
Frongoch
Y Bala
Gwynedd
LL23 7NT
Ffôn / Tel:
01678 520740
Ffederasiwn Cysgod y Foel © 2026 Website designed and maintained by H G Web Designs
Ysgol Ffridd y Llyn
Cefnddwysarn
Y Bala
Gwynedd
LL23 7HE
Ffôn / Tel:
01678 530373
Croeso i wefan Ysgol Bro Tryweryn!
Dyma wefan Ysgol Bro Tryweryn. Mae llawer o hanes i’n hysgol ni – mae safle’r ysgol ar dir hen garchar Gwyddelig a Ffatri Wisgi enwog Stâd Rhiwlas. Mae
gennym gerflun o waith Neil Dalrymple a’r plant y tu allan i’r ysgol yn dangos holl hanes yr ardal.
Mae llawer o blant yn dod o ardaloedd gwahanol i’r ysgol – Llidiardau, Rhyduchaf, Maesywaen, Parc, Y Bala, Frongoch, Cwmtirmynach a Llangwm. Ar hyn o
bryd, mae 59 o blant yn yr ysgol ac mae gennym 2 dosbarth sef Arenig Fawr ac Arenig Fach.
Rydym yn gwneud llawer o weithgareddau gwahanol drwy’r flwyddyn gan gynnwys chwaraeon – rygbi, pêl-droed, rownderi, criced, pêl-rwyd, nofio a
mabolgampau. Mae gennym glybiau gwahanol cyn ac ar ôl ysgol – Clwb Brecwast, Clwb Coginio, Clwb Cyfrifiaduron a rydym wedi bod yn derbyn gwersi
Sbaeneg hefyd! Rydym yn cystadlu bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd, ac yn gwneud cyngherddau diolchgarwch a Nadolig i’r ardal leol.
Mae ardal Frongoch yn berwi mewn hanes! Yn 1897 sefydlwyd ffatri wisgi yma gan R.J.Lloyd Price, wisgi oedd yn cael ei greu gan ddŵr mawnog afon
Tryweryn sydd ger ein hysgol ni. Ar ôl i’r ffatri gau, daeth ymwelwyr annisgwyl o’r Almaen ac yna o Iwerddon yma. Nawr roedd y safle wisgi wedi troi yn
garchar rhyfel.
Yn 1916 roedd y Gwyddelod wedi bod yn ymladd am ryddid am wythnos yn Nulyn, cyn cael ei harestio a’u hanfon i wersyll rhyfel dros Brydain. Ond i
Frongoch oedd nifer mawr iawn wedi cael ei hanfon. Roedd dau wersyll, camp y gogledd sef y cae dros y ffordd i’r ysgol, a camp y de sef lleoliad ein hysgol
ni!